Cryfhewch Eich Presenoldeb Gweledol Ar-lein


Gall llunia creu effaith gweledol cryf i ffurfio hunaniaeth clir i'ch busnes.


Ni fu'r byd erioed yn fwy gweledol.


Os ydych chi'n chwilio am frandio gweledol sydd nid yn unig yn cyd-fynd â phwy yda' chi fel person, ond sydd hefyd yn adrodd stori eich brand yn y ffordd fwyaf dilys bosib, gyda'r pŵer i gyrraedd eich cynulleidfa berffaith gydag un delwedd yn unig, yna ‘da chi wedi dod i'r lle iawn.


Mae mwy a mwy o fusnesau yn sylweddoli pwysigrwydd presenoldeb ar-lein ond nid yw pob busnes yn gallu cyflwyno eu cynnyrch a'u gwasanaeth hardd mewn ffordd unigryw a llwyddiannus.


Rydyn ni hefyd mewn oes lle mae cwsmeriaid eisiau cysylltu â pherchnogion busnesau a deall eu gwerthoedd fel person, yn ogystal â'r cwmni ei hun.


Buddsoddi mewn delweddau pwrpasol sy'n cyfleu'r union beth sydd gennych chi a'ch brand i'w gynnig yw'r ffordd fwyaf effeithiol a phwerus i sefyll allan o'r dorf, gan eich helpu chi a'ch cwsmer i ddeall gwerth eich brand.


Dwi yma i ddweud eich stori chi.




Kristina


Mae Kristina wedi bod yn ffotograffydd masnachol hunan-gyflogedig ers 7 mlynedd, gan ganolbwyntio ar yr agwedd 'adrodd straeon dogfennol' o ffotograffiaeth. Mae hi'n ymfalchïo yn ei gallu i gysylltu â phobl a chreu delweddau gweledol i gynrychioli'r rhai y mae'n dod i'w hadnabod.

Cysylltwch hefo fi

Pecynnau gwahanol i siwtio'ch anghenion busnes...

Tystebau

“Mae dylunio mewnol yn fusnas gweledol ofnadwy a mae cael llunia da o fy ngwaith mor bwysig. Kristina ydi fy ffotograffydd 'go-to' ers rhai blynyddoedd rwan. Ma' hi mor hawdd i weithio hefo a dwi wastad yn hapus hefo'r llunia. 'Ma Kristina yn deallt yn union be dwi angen.”

“Fe wnaeth Kristina wir wneud i mi deimlo'n gartrefol a helpodd fi nid yn unig i ddeall yr hyn yr oedd ei angen i fy mrand ond sut i'w gyflawni yn weledol. Gyda’i help, rwyf wedi gallu hysbysebu fy ngwasanaethau yn hyderus ac ennill cleientiaid newydd, gan wybod bod fy mrandio gweledol yn brydferth, yn ffyddiog i mi ac yn dryw i’r brand.”

“Mi wnes i rili fwynhau y shoot efo Kristina. Oni’n teimlo mor braf a chartrefol yn ei chwmni a roedd y profiad yn lot o hwyl. Mae’r lluniau yn bendant wedi gwneud fy ngwefan yn fwy diddorol a maeo’n gret cael lluniau o safon i’w postio ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gan Kristina y ddawn o dynnu lluniau unigryw iawn a dwi wrth fy modd efo’i gwaith.”

“Tynnodd Kristina luniau ohonof i a'm musnes yn berffaith.
Ar ôl cael sgwrs, roedd Kristina yn gwybod yn union beth oni’ i'n edrych amdano. Fel rhiwyn sy’n cynnig gwasanaeth mae'n bwysig iawn i bobl fy ngweld, a chael teimlad o fy mhersonoliaeth trwy'r lluniau rwy'n eu rhannu. Mae'r lluniau'n edrych fel fi; naturiol a hamddenol.
Rwyf wedi bod mor falch o'r lluniau ac mae'r ymateb iddynt ar dudalennau cymdeithasol Marketshed wedi bod yn wych. Y buddsoddiad gorau rydw i wedi'i wneud ar gyfer fy musnes.”

Cysylltu i drafod brandio eich busnes chi