Heddwch Meddwl Gyda'r Pecyn ‘Diffino’ ...


Os yda’ chi'n teimlo bod chi’m yn rhy siwr ar gyfeiriad eich busnes, a byddai bach o gymorth ar ble i fynd nesaf yna 'Diffinio' yw'r pecyn i chi. 

Neu efallai eich bod yn fusnes newydd ac yn methu â dod o hyd i'ch lle yn y byd cyfryngau cymdeithasol â'ch hunaniaeth gweledol, ac eisiau denu'r cwsmer delfrydol o'r cychwyn.

Trwy symleiddio'ch delweddau bydd hyn yn helpu i rhoi gwell syniad i'ch cynulleidfa o'r hyn rydych chi'n ei gynnig, ond hefyd yn gwneud bywyd yn llawer haws i chi.

Mae'r pecyn syml hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu chi i gamu'n ôl ac edrych arnoch chi'ch hun a'ch darpar gwsmeriaid, er mwyn denu'r cleient perffaith a thyfu'ch busnes i'r cyfeiriad cywir.


Beth rydych chi'n ei gael gyda'r pecyn yma:


  • Byddwch yn derbyn holiadur manwl i'w lenwi ynglŷn â phwy ydych chi fel busnes er mwyn gallu adrodd eich stori. Bydd hyn yn helpu i wneud y lluniau'n fwy pwrpasol i chi.
  • Ymgynghoriad gyda Kristina i werthuso'r holiadur a thrafod beth yw'r camau gorau i fynd â'ch busnes i'r lefel nesaf.
  • Pecyn llunia ‘Moodboard’ wedi'i deilwra i greu brand eich busnes, bydd hwn yn ddefnyddiol iawn i'w ddefnyddio yn y dyfodol i gyfeirio'n ôl ato wrth wneud penderfyniadau gweledol.
  • Photoshoot 1 diwrnod. Bydd y saethu yn cael ei gynllunio'n drylwyr gyda Kristina er mwyn cael y mwyaf o ddelweddau o fewn yr amserlen.


Pris: £ 499


Ychwanegiad i'r pecyn:


Cynllun dylunio tudalen Instagram am 3 mis (yn cynnwys graffeg wedi'i theilwra i frand eich busnes)

£ 200


Eich 'Preset Lightroom' personol eich hun, mi fydd hwn yn cynrychioli ‘edrychiad’ eich busnes (fel ffilter). Bydd cael y ‘Preset’ yn golygu y gallwch chi dynnu'ch lluniau eich hun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol heb orfod poeni am golli parhad yn eich brand, gallwch chi hyd yn oed ei gael ar eich ffôn i saethu wrth fynd yn eich blaen.

£100






* Mae'r pecynnau ychwanegiad ar gael os dachi'n prynnu'r pecyn Diffinio yn unig.