Brand Newydd Sbon…


Os ydych chi'n teimlo bod angen i chi droi cornel hefo’ch busnes ac yn ffeindio hi'n anodd i benderfynu pa gyfeiriad i'w gymryd, neu eisiau denu cwsmeriaid newydd i weddu i'ch anghenion busnes, yna mae'r pecyn hwn ar eich cyfer chi.

Efallai eich bod yn gwmni mawr nad yw wedi cael newid mewn ychydig flynyddoedd, ac yn teimlo'r angen i gadw i fyny â chystadleuaeth.

Mae'r pecyn hwn wedi'i gynllunio i ailwampio brand gweledol eich busnes er mwyn rhoi cychwyn newydd sbon i chi. Wedi'i gynllunio i wneud i'ch busnes edrych yn dda, cadw parhad o ran delweddaeth, ac yn bwysicaf oll gwneud ichi sefyll allan.


Beth sydd yn y pecyn yma:


  • Holiadur manwl ynglŷn â phwy ydych chi fel busnes er mwyn gallu dweud eich stori. Bydd hyn yn helpu i wneud y lluniau'n fwy pwrpasol i chi.
  • Holiadur manwl ynglŷn â phwy yw'ch cleient delfrydol, drwy ganolbwyntio ar hyn medrwch sicrhau eich bod yn eu targedu'n hawdd.
  • Ymgynghoriad gyda Kristina i werthuso’r holidauron a thrafod beth allai fod y camau gorau i'w cymryd i helpu mynd a’ch busnes i’r lefel nesaf.
  • Pecyn brandio wedi'i deilwra hefo Llunia a ‘tips’, bydd hwn yn ddefnyddiol iawn i'w ddefnyddio yn y dyfodol i gyfeirio'n ôl ato wrth wneud penderfyniadau gweledol.
  • Photoshoot 2 ddiwrnod. Bydd y saethu yn cael ei gynllunio'n drylwyr gyda Kristina er mwyn cael y mwyaf o ddelweddau o fewn yr amserlen.

(Gellir defnyddio hwn gefn wrth gefn neu gellir defnyddio'r ail ddiwrnod cyn pen chwe mis ar ôl y shŵt cyntaf.)

  • Eich 'Preset Lightroom' personol eich hun, mi fydd hwn yn cynrychioli ‘edrychiad’ eich busnes (fel ffilter). Bydd cael y ‘Preset’ yn golygu y gallwch chi dynnu'ch lluniau eich hun ar gyfer cyfryngau cymdeithasol heb orfod poeni am golli parhad yn eich brand, gallwch chi hyd yn oed ei gael ar eich ffôn i saethu wrth fynd yn eich blaen.


Pris: £999


Pecynnau ychwanegol:


Cynllun dylunio tudalen Instagram am 3 mis (yn cynnwys graffeg wedi'i deilwra i frand eich busnes)

£ 200



* Mae’r pecynnau ychwanegol mond ar gael pan dachi’n archebu y pecyn ‘Brand Newydd Sbon’.